Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021
Pwynt Craffu ar Rinweddau 3:
1. Mae Llywodraeth Cymru yn llunio ac yn cyhoeddi Asesiadau Effaith Cryno fel mater o drefn mewn perthynas â newidiadau yn y rheoliadau Coronafeirws ar y cyfle cyntaf ar ôl pob cyfnod adolygu. Mae’r Asesiadau Effaith Cryno hyn ar gael yma.
2. Mae’r Asesiadau Effaith Cryno yn ymdrin â’r meysydd a ganlyn:
• Effaith ar Lesiant
• Asesiad o’r Effaith ar yr Economi
• Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb
• Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant (os yw’n gymwys ac os nad yw’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn ymdrin â hyn yn llawn)
• Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Dynol
• Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg
Pwynt Craffu ar Rinweddau 4:
3. Mae gweithio gartref yn un o’r ymddygiadau diogelu allweddol a all helpu i leihau cyfraddau trosglwyddo, yn enwedig pan fydd cyfraddau trosglwyddo yn y gymuned yn uchel. Mae gweithio gartref yn golygu ei bod yn anochel bod nifer y cysylltiadau unigol yn gostwng. Mae wedi cael ei dderbyn fel mesur sy’n arbennig o effeithiol er mwyn lleihau lledaeniad COVID yn ystod y pandemig fel a nodir yn y datganiad Consensws gan is-grŵp Gweithredol y Grŵp Gwyddonol ar Ffliw Pandemig – Modelu (SPI-M-O) ar gyfer y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE), 30 Mehefin 2021 - S1298_SPI-M-O_Consensus_Statement.pdf (publishing.service.gov.uk)
4. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r cyngor ar y coronafeirws y mae’n ei gael oddi wrth y Gell Cyngor Technegol fel mater o drefn ac mae ar gael yma. Yn y cyngor oddi wrth y Gell Cyngor Technegol dyddiedig 2 Rhagfyr, yr argymhelliad yw annog lleihau nifer y cysylltiadau cymdeithasol, “especially through increased working from home when that is a viable business option”. Mae’r cyngor hwn ar gael yma.
5. Awgrymodd data arolygon a data symudedd ar yr adeg pan wnaed y penderfyniad nad oedd y canllawiau a’r negeseuon yn cael yr effaith a ddymunwyd o ran newid cyfran y bobl a oedd yn gweithio gartref yng Nghymru i leihau lledaeniad COVID. Ar yr adeg honno, awgrymodd y data fod nifer y bobl a oedd yn gweithio gartref wedi cyrraedd un o’r pwyntiau isaf ers dechrau’r pandemig.